Storm berffaith mewn cyfiawnder troseddol yn peryglu ymchwiliadau'r heddlu. Dyfed Powys ymhlith rhai sydd dioddef waethaf.
Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr wedi rhybuddio bod y tranc cyfreithwyr dyletswydd ar draws y wlad yn peryglu cyfiawnder, wrth iddi ryddhau ei data newydd sy’n rhagamcanu gostyngiad brawychus o 37% mewn degawd (2,064 llai o gyfreithwyr amddiffyn).
Mae nifer y cyfreithwyr ddyletswydd wedi gostwng 26% ers 2017 (1,446 llai) yn barod. Amcangyfrifir y gallai 618 fwy o gyfreithwyr ddyletswydd gael eu colli erbyn 2027 (11%).
Mae Dyfed Powys ymhlith un o’r ardaloedd heddlu sydd wedi dioddef waethaf yn y wlad, gyda’r 34 cyfreithiwr ddyletswydd a gofnodwyd yn 2023 i fod i ostwng i 26 o gyfreithiwr yn y pum mlynedd nesaf.
Ar gyfer poblogaeth a gofnodywd o tua 523,000 o bobl*, nid yw hyn yn ddigon i sicrhau mynediad at gyfiawnder.
Mae cyfreithwyr ddyletswydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cynrychiolaeth mewn gorsafoedd heddlu i'r rhai sydd wedi'u harestio am drosedd.
Heb gyfreithwyr ddyletswydd ar gael, gall rhai ddewis ildio ei hawl i gael cyfreithwyr a phendefynu i mynd ymlaen heb gynrychiolaeth. Os na fydd yr un a ddrwgdybir yn ildio ei hawl i gyfreithiwr, dydy’r heddlu ddim yn gallu fynd ymlaen, a rhaid iddynt ryddhau'r sawl a ddrwgdybir.
Daw’r dirywiad hon ar adeg pan mae’rarestiadau wedi codi am y tro cyntaf ers blynyddoedd, gyda 4,545 yn cael eu gwneud yn Nyfed-Powys yn 2021/22.
Mae disgwyl i fwy na 700,000 o achosion ychwanegol ddod i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn genedlaethol oherwydd y cynnydd yn niferoedd swyddfeydd yr heddlu.
“Mae cyfuniad o’r cynnydd disgwyliedig mewn swyddogion heddlu ac arestiadau, ynghyd â’r gostyngiad yn nifer y cyfreithwyr ddyletswydd ar gynlluniau yn Nyfed-Powys, yn creu storm berffaith mewn cyfiawnder troseddol a fydd yn effeithio ar ddioddefwyr troseddau, tystion, a cymdeithas yn gyffredinol” meddai Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Lubna Shuja.
Rydym yn clywed gan ein haelodau ar draws y wlad eu bod y cael trafferth i gyflenwi cynlluniau dyletswydd yn barod. Rydym hefyd yn clywed am achosion yn genedlaethol lle mae’r heddlu’n cael eu gorfodi i ryddhau pobl a ddrwgdybir oherwydd na all cyfweliadau symud ymlaen beh gynrychiolaeth gyfreithiol.
Y cwestiwn yw pwy fydd yn cynrychioli’r holl garcharorion ychwagegol? Ar draws y wlad, mae cyfreithwyr yn gweithio ddydd a nos yn darparu cyngor cyfreithiol ar y cam cynharaf hollbwysig o achosion mewn gorsafoedd heddlu, gan sicrhau mynediad at gyfiawnder i bawb.
Ond, does na ddim digon o gyfreithwyr amddiffyn ar gael oherwydd dydy’r waith ddim yn ariannol hyfyw.
Rydym yn galw ar Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu godi’r mater hwn gyda’r llywodraeth DU.
Yn gorffen
Nodiadau i olygyddion
• * Poblogaeth ardal heddlu Dyfed-Powys a gofnodwyd yn 2020
• **Yn 2022, cododd arestiadau cenedlaethol am y tro cyntaf ers saith mlynedd. “Home Office, Police powers and procedures: Stop and search and arrests, England and Wales, year ending 31 March 2022”
• *** Yn 2021, amcangyfrifodd y Swyddfa Gartref y gallai recriwtio 20,000 o swydddogion heddlu ychwanegol arwain at 729,000 o achosion ychwanegol yn dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol rhwng 2020-21 a 2029-30 National Audit office
• ****HMICFRS, State of Policing 2022, 9 June 2023, p14
Am Gymdeithas y Cyfreithwyr
Cymdeithas y Cyfreithwyr yw’r corff proffesiynol annibynnol sy’n gweithio’n fyd-eang i gefnogi a chynrychioli cyfreithwyr, gan hyrwyddo’r safonau proffesiynol uchaf, budd y cyhoedd a rheolaeth y gyfraith.
Cyswllt swyddfar’r wasg: Nick Mayo | 020 8049 4100
Louise Navarro-Cann | 020 8049 3715